Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 1 Mai 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) - i'w hateb gan Arweinydd y Tŷ
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Adolygiad Canol Cyfnod o Gynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru 2018 (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyngor Sir Powys - Diweddariad ar Gefnogaeth o dan Fesur Llywodraeth Leol 2009 (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Perchnogaeth Tai Cost Isel (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Sgiliau Digidol a Chodio (45 munud)
Dydd Mercher 2 Mai 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Caffael Cyhoeddus (30 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)
Dydd Mawrth 8 Mai 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Dyfodol Rheoli Tir (45 munud)
· Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref (45 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig (45 munud)
Dydd Mercher 9 Mai 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Prentisiaethau yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
· Dadl Fer – David Melding (Canol De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 15 Mai 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Treth Tir Gwag (45 munud)
· Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Y Diweddariad ar Gysylltedd Digidol yng Nghymru (45 munud)
· Dadl: Rôl y System Gynllunio wrth Greu Lleoedd (60 munud)
Dydd Mercher 16 Mai 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (45 munud)
· Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ (mewn perthynas â'i chyfrifoldebau portffolio) (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) (30 munud)